Mr Jenkins

Gair gan y Pennaeth

Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno gwefan Ysgol Gyfun Gŵyr i chi. Arni, cewch ddarllen am nodau’r ysgol a chael blas ar ei bywyd academaidd a diwylliannol prysur.

Ers iddi agor ei drysau yn 1984, mae’r ysgol wedi cyflawni safonau academaidd uchel iawn ar raddfa sirol a chenedlaethol, a hynny’n gyson. O’r cychwyn cyntaf, mae bywyd allgyrsiol eang ac egnïol yr ysgol wedi bod yn nodwedd amlwg o’i bywyd a’i diwylliant. Ymhyfrydwn yn ein llwyddiant ymhob maes, gan gynnwys cyraeddiadau academaidd a diwylliannol a chyflawniadau ym maes chwaraeon. Ymfalchïwn yng nghynnydd personol ein holl ddisgyblion, waeth pa ddoniau a diddordebau sydd ganddynt.

Gobeithiaf i chi gael budd o’r wefan hon. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol.

Yn gywir iawn,
Jeffrey Connick,
Pennaeth

Nodau ac Amcanion yr Ysgol

Creu a chynnal yn yr ysgol

  • gymuned sy’n glos, yn gynnes ac yn gefnogol ac sy’n gofalu am yr unigolyn trwy sicrhau bod ei (h)anghenion wrth galon pob peth a wnawn; 
  • cymuned sy’n sicrhau y gwerthfawrogir pob disgybl yr un faint, heb wahaniaethu ar sail rhywedd, hil, crefydd na gallu; un sy’n gallu annog disgyblion i sylweddoli y gallant gyfrannu mewn ffordd unigryw a gwerthfawr at yr ysgol a’r gymdeithas ehangach, trwy feithrin ynddynt ymdeimlad cryf o hunanhyder a hunan-barch;
  • cymuned Gymreig a Chymraeg sy’n codi ymwybyddiaeth disgyblion o’u hetifeddiaeth Gymreig mewn ffordd sy’n mynd i ddiogelu diwylliant y genedl a’i ddatblygu; cymuned sydd hefyd yn gwerthfawrogi dwyieithrwydd a gallu pob disgybl i gyfrannu’n hyderus at Gymru ac Ewrop amlieithog; 
  • cymuned sy’n gweithredu o fewn fframwaith o agweddau cadarnhaol a gwerthoedd moesol ac ysbrydol, gan sicrhau arweiniad clir i bob disgybl ynghylch sut i ddatblygu yn unigolyn hunangynhaliol, cyfrifol a sensitif; 
  • cymuned sy’n llwyddo trwy gyfrwng ei nodau cwricwlaidd penodol, ac effeithiolrwydd ei haddysgu a’i dysgu, i alluogi disgyblion i ddatblygu hyd eithaf eu gallu, a hynny’n academaidd, yn gymdeithasol ac yn gorfforol, ac yn darparu profiadau sy’n dwyn boddhad a phleser ar yr un pryd; 
  • cymuned sy’n paratoi pob disgybl at fyd gwaith trwy ddatblygu sgiliau i’r eithaf, er mwyn i ddisgyblion allu dod yn ddinasyddion cyfrifol a gwerthfawr