Gwybodaeth am yr Ysgol
I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgol, efallai yr hoffech glicio ar wefan Llywodraeth Cymru lle cewch wybodaeth ystadegol am bob ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Ar wefan llyw.cymru/fy-ysgol-leol-canllaw, cewch gannoedd o filoedd o ddarnau o ddata; mae’n borth gwybodaeth gwerthfawr a hygyrch i rieni a gofalwyr a’r rheiny sydd â diddordeb yn ystadegau addysgol ysgolion yng Nghymru.
Mae’r wefan yn galluogi defnyddwyr i weld dewis eang o wybodaeth ystadegol am ysgol unigol, gan gynnwys: gwybodaeth gyd-destunol er enghraifft y math o ysgol, poblogaeth yr ysgol, faint o athrawon.
Cyflwynir cyrhaeddiad o ran TGAU a Safon Uwch, ynghyd â gwybodaeth am gategori’r ysgol, yn ogystal â gwybodaeth ariannol er enghraifft gwariant fesul ysgol.
Dolen at adroddiad diweddaraf Estyn. Cliciwch yma i weld yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ysgol o ran ein Perfformiad / Staffio / Cyllideb / Cyrsiau / Meincnodi / Presenoldeb.

Ein nod yw cynnig cwricwlwm eang, cytbwys a phersonol i bob disgybl yn yr ysgol trwy:
- fodloni holl ofynion statudol y Cwricwlwm
- datblygu dewis o sgiliau ar sail y Fframweithiau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol
- meithrin agweddau cadarnhaol ym mhob unigolyn fel y gall addasu mewn ffordd hyblyg i syniadau a sefyllfaoedd newydd
- hybu ymhlith unigolion y gallu i weithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm er mwyn datrys problemau a phenderfynu sut i gyflawni tasgau yn briodol
- helpu pob unigolyn i ddatblygu safonau personol sy’n dangos sensitifrwydd at anghenion pobl eraill ac i ddod yn oedolion gofalgar a chyfrifol
- ysgogi pob unigolyn i gyflawni hyd eithaf ei (g)allu, trwy gynnwys disgyblion yn actif wrth hunanwerthuso a chynllunio camau gweithredu, er mwyn gwneud cynnydd pellach gyda’r gwaith o hybu cyfleoedd cyfartal a’r egwyddor o barchu pob unigolyn sy’n aelod o gymuned yr ysgol a’r gymuned estynedig
- hybu Cymreictod a’r Cwricwlwm Cymreig a meithrin ymwybyddiaeth y disgybl o dreftadaeth a diwylliant y genedl, ynghyd â dealltwriaeth o ddiwylliannau eraill a pharch tuag atynt
- hybu ymwybyddiaeth fyd-eang o faterion amgylcheddol a chynaladwyedd
- hybu ymwybyddiaeth o fyw a bwyta’n iach
- datblygu dealltwriaeth o ofynion byd gwaith a chynnig cyfle i ddilyn cyrsiau galwedigaethol
- sicrhau dilyniant a pharhad rhwng cyfnodau allweddol
- sicrhau dewis eang o brofiadau dysgu anffurfiol.





