Asesiadau Personol
Trosolwg
Mae’r asesiadau’n rhoi adborth ar sgiliau darllen a rhifedd dysgwyr fel y gall dysgwyr, eu hathrawon a’u rieni/gofalwyr ddeall y cynnydd y maen nhw’n ei wneud ar eu taith ddysgu. Mae gwybodaeth o’r asesiadau yn helpu’r athrawon i gynllunio’r camau nesaf ac yn helpu dysgwyr i wneud cynnydd.
Mae Asesiadau personol darllen a rhifedd yn cael eu gwneud ar-lein gan ddisgyblion yn mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru ac maent yn statudol. Gellir eu defnyddio ochr yn ochr ag ystod o ddulliau asesu i ategu deall a datblygu sgiliau darllen a rhifedd sy’n orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru.

Arweiniad
Asesiad Ymgyfarwyddo
Bydd disgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9 yn cwblhau Profion Darllen Cenedlaethol yn ystod y Tymor Ysgol.
Mae asesiadau ymgyfarwyddo yn ffordd o helpu disgyblion i ymgyfarwyddo â’r mathau o gwestiynau a ddefnyddir yn yr Asesiadau Personol, yn ogystal â’u gwneud yn gyfarwydd â’r amgylchedd rhyngweithiol. Mae defnyddio’r asesiad hwn yn gwbl ddewisol.
Gellir eu cyrchu yn y tab ‘Asesiad Ymgyfarwyddo’ ar y dudalen Asesiadau Personol ar ôl mewngofnodi i HWB.
I gael rhagor o wybodaeth am gael mynediad at yr asesiadau hyn, dilynwch y canllaw cam wrth gam isod.
I ddechrau, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif HWB/cyfrif eich plentyn.
Ewch i https://hwb.gov.wales/ a gwasgwch y botwm Mewngofnodi a mewngofnodwch gyda’ch E-bost a’ch Cyfrinair HWB.
O’r hafan, cliciwch ar y botwm Asesiadau Personol.
Ar ôl cael eich ailgyfeirio i’r dudalen Asesiadau Personol, cliciwch ar y Tab ‘Asesiad Ymgyfarwyddo’.
Ar y dudalen hon mae llawer o asesiadau i ddewis ohonynt, yn ogystal ag arweiniad ar yr hyn a fydd yn cael ei gynnwys yn yr asesiad.
Bydd dewis pwnc yn mynd â chi i asesiad rhyngweithiol sy’n dynwared y peth go iawn. Mae hyn yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd â’r elfennau rhyngweithiol ac yn eich galluogi i ateb cwestiynau enghreifftiol sy’n debyg i’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan Asesiad Personol a gynhelir gan yr ysgol.




