
Cwricwlwm i Gymru 2022 : Ysgol Gyfun Gwyr Crynodeb
O fis Medi 2022 ymlaen fe fydd Ysgol Gyfun Gŵyr yn cyflwyno Cwricwlwm i Gymru 2022 yn statudol i ddysgwyr Blwyddyn 7 gyda’r bwriad o ehangu’r ddarpariaeth hon, fesul blwyddyn, i flynyddoedd 8 – 11. Wrth reswm bydd y broses hon yn broses barhaus o wella cyson. Proses yw fydd yn cynnwys:-
Fel y datgenir yn nogfennaeth Llywodraeth Cymru, rhagwelwn fel Ysgol na fydd y Cwricwlwm hwn yn cyrraedd ei ffurf berffaith, orffenedig gan fod anelu at “ berffeithrwydd” yn broses gyson o gynllunio, datblygu a mireinio. Fodd bynnag mae gan YSGOL GYFUN GŴYR weledigaeth gadarn a diwyro i ddiogelu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau cyffrous, cyfoethog a heriol i’n dysgwyr a hynny ar sail yr addysgu, dysgu ac asesu ar gyfer dysgu gorau ar hyd llwybr addysgiadol eu taith o fewn ein sefydliad.

Ers ei sefydlu yn 1984, athroniaeth sylfaenol Ysgol Gyfun Gŵyr yw mai’r dysgwyr sydd ynghanol holl weithgarwch, prosesau a threfniadaeth ein hysgol ac ers cychwyn y broses o ddylunio Cwricwlwm i Gymru 2022 erys yr athroniaeth hon yn safadwy. Ein nod yw cynnal canolfan addysgu a dysgu o ragoriaeth a hynny er mwyn creu dysgwyr uchelgeisiol a gweithgar; unigolion creadigol a mentrus; dinasyddion egwyddorol a gwybodus a phobl ifanc iach a hyderus. Credwn o fuddsoddi a datblygu’r dibenion hyn y gallwn gyfrannu at greu’r person cyflawn all ddatblygu yn aelod aeddfed a chynhyrchiol o’i gymdeithas leol a’i wlad. I ni mae datblygu ymwybyddiaeth a balchder ein dysgwyr o’u CYNEFIN a Stori Cymru yn greiddiol i’n darpariaeth ac yn allwedd i ehangu gorwelion ein dysgwyr yn eu gwerthfawrogiad o draddodiadau, diwylliannau ac ieithoedd byd eang.
Un cyfle a gaiff POB dysgwr a rhaid i’r cyfle hwnnw gyfrif.
Trwy gydweithio cyson a diwyd gyda’n rhanddeiliaid (yn ymarferwyr, dysgwyr, rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach); PARTNERIAETH, ein consortiwm addysg leol; ac ysgolion Clwstwr Teulu Gŵyr datblygwyd gweledigaeth gytûn o’r Camau Gweithredu fyddai’n sail i’r gweithgarwch o ddylunio’n cwricwlwm; Camau Gweithredu sydd bellach yn dwyn ffrwyth wrth i ni gamu ar y cyd tuag at wireddu ein Cwricwlwm a’n continwwm dysgu o Gyfnod Cynnydd i Gyfnod Cynnydd.
Fel Ysgol Arweiniol y Cwricwlwm (y Dyniaethau) ac Ysgol Arweiniol Dysgu Proffesiynol bu’r ysgol yn ffodus i fod wrth wraidd cynllun a phrosesau Llywodraeth Cymru i gynllunio a datblygu gweledigaeth Graham Donaldson o wireddu Cwricwlwm i Gymru 2022.
O’r cychwyn bu’r ysgol yn flaengar wrth arbrofi a pheilota gyda Chwricwlwm amgen i Fl 7 – 9 a hynny ar draws ein MDaPh. Yn ddi-os ffrwyth, y blaengaredd hwn yw medru camu’n hyderus at gyflwyno Cwricwlwm i Gymru yn hyderus i ddysgwyr Bl 7 ar draws y 6 Maes Dysgu a Phrofiad ym Medi 2022.
Ein nod pellach yw peilota Cwricwlwm i Gymru i Fl 8 ym Medi 2022 ac i Fl 9 ym Medi 2023 CYN dyddiad ei mabwysiadu’n statudol yn 2023 / 2024.
- MDaPh: Iechyd a Lles
- MDaPh: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- MDaPh: Mathemateg a Rhifedd
- MDaPh: Dyniaethau
- MDaPh: Celfyddydau Mynegiannol
- MDaPh: Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Gweledigaeth:
Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes) yn darparu strwythur holistaidd ar gyfer deall iechyd a lles. Mae’n ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i wynebu heriau a chyfleoedd bywyd. Elfennau sylfaenol y Maes hwn yw iechyd a datblygiad y corff, iechyd meddwl, a lles emosiynol a chymdeithasol. Bydd yn cefnogi dysgwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut mae gwahanol elfennau iechyd a lles yn gysylltiedig â’i gilydd. Mae hefyd yn cydnabod bod iechyd a lles yn bwysig i alluogi dysgu llwyddiannus.
Bydd ymwneud â’r Maes hwn yn gymorth i feithrin dull gweithredu ysgol gyfan sy’n galluogi i iechyd a lles dreiddio i bob agwedd o fywyd ysgol.
Mae’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn wedi cael ei fynegi mewn pum datganiad. Mae’r rhain yn cefnogi a chadarnhau ei gilydd, ac ni ddylid eu hystyried ar wahân. Er mwyn gwireddu’r dull holistaidd hwn, dylai athrawon geisio tynnu ar y pum datganiad wrth gynllunio gweithgareddau. Gyda’i gilydd, maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.
Yn Ysgol Gyfun Gŵyr mae’r gwersi Iechyd a Lles yn cynnig iaith gyffredin sy’n dod â disgyblion at ei gilydd waeth beth fo’u tarddiad, cefndir, credoau a gwerthoedd.
Yr Hyn Sy’n Bwysig:
- Iechyd a Lles Corfforol
- Iechyd a Lles Cyfannol
- Iechyd a Lles Maeth
Gweledigaeth:
Mae sgiliau ieithyddol cadarn yn allweddol mewn bywyd. O ganlyniad, ein nod ar draws yr amryw ieithoedd a addysgir yn Ysgol Gyfun Gŵyr yw datblygu cyfathrebwyr hyderus a huawdl – dinasyddion sy’n ymhyfrydu yn eu diwylliant a’u hunaniaeth Gymreig, a hynny o fewn cyd-destun rhyngwladol sydd yn newid. Dymunwn i’n dysgwyr weld perthnasedd i’r ieithoedd y siaradant, nid yn unig mewn cyd-destun addysgol ond hefyd tu hwnt i furiau’r ystafell ddosbarth. Anelwn at ddatblygu unigolion sy’n cofleidio lluosieithrwydd ac sy’n medru gwneud cysylltiadau rhwng ieithoedd, gan ddeall gwreiddiau a tharddiad geiriau. Hoffwn weld ieuenctid sy’n cael eu cyffroi gan gyfoeth llenyddiaeth, a’u bod yn defnyddio llenyddiaeth i adnabod syniadau ac emosiynau, i ddatblygu gwerthoedd sicr ac i werthfawrogi eu diwylliant a’r byd ehangach. Cydweithiwn fel Maes Dysgu a Phrofiad er mwyn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a ellir eu datblygu a’u dyfnhau ymhellach ar draws yr ystod o ieithoedd a ddysgir.
Ein nod yw gwneud hyn oll wrth ennyn disgyblion ymholgar, creadigol ac annibynnol, â safonau uchel, sy’n gallu wynebu heriau gydol oes.”
Yr Hyn Sy’n Bwysig:
- Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd
- Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o’n hamgylch
- Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu
- Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd
Gweledigaeth:
Ein gweledigaeth ar gyfer dysgwyr Mathemateg a Rhifedd yw bod pob unigolyn yn dod yn feddyliwr mathemategol hyderus sy’n cael ei gyffroi wrth ddatrys problemau a wynebu heriau. Hoffwn ein dysgwyr i gael y cyfle i ddadansoddi a chymharu data’n feirniadol: data lleol, data Cymru a data’r byd. Byddent hefyd yn medru dehongli gwybodaeth a data er mwyn asesu risg a defnyddio’u sgiliau rhifedd ar draws y cwricwlwm er mwyn gwneud dewisiadau effeithiol. Rydym am i’n dysgwyr fod yn agored i ddulliau a syniadau amrywiol ac i ddeall bod gwneud camgymeriadau yn rhan annatod o’r broses o ddysgu. Ein nod yw bod pob dysgwr yn mentro ac yn sylweddoli bod cynnig a gwella yn rhan o’r broses ddysgu er mwyn llwyddo. Bydd hyn yn eu galluogi i werthfawrogi prydferthwch y maes dysgu hwn.
Yr Hyn Sy’n Bwysig:
- Defnyddir y system rif i gynrychioli a chymharu’r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau.
- Mae algebra yn defnyddio systemau symbolau i fynegi strwythur perthnasoedd mathemategol.
- Mae geometreg yn canolbwyntio ar berthnasoedd sy’n ymwneud â siâp, gofod a safle, ac mae mesur yn canolbwyntio ar feintioli ffenomena yn y byd ffisegol.
- Mae ystadegau yn cynrychioli data, tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae’r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus
Gweledigaeth:
Cwricwlwm sy’n ysgogi chwilfrydedd a her yn y gorffennol a’r presennol, sy’n helpu disgyblion i fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus a hyderus o’u cynefin a’r byd ehangach, a hynny yng nghyd-destun yr unfed ganrif ar hugain. Rhaglen addysgu a’i hanfod yn eu milltir sgwâr ag iddi orwelion fyd eang, a sicrha bod ein disgyblion yn adnabod y sialensiau sy’n wynebu eu cenhedlaeth, yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau moesol, boed y rhain yn rhai cyfredol neu hanesyddol, â’r gallu a’r awydd i’w wynebu a’u lliniaru. Ein nod yw sicrhau bod Dysgwyr y Dyniaethau felly yn ddysgwyr uchelgeisiol gydol oes sydd â sgiliau trawsgwricwlaidd a datrys problemau cadarn i allu cyfrannu’n fentrus ac yn greadigol mewn bywyd a gwaith. Sicrhawn bod ein disgyblion yn cael y cyfle i ddatblygu hyder, cadernid meddwl ac empathi a chyfranna yn ddi-os at sicrhau cenhedlaeth o unigolion iach, hyderus.
Yr Hyn Sy’n Bwysig:
- Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
- Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chant eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
- Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.
- Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
- Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Gweledigaeth:
Dylai pob plentyn gael mynediad at ystod eang o gyfleoedd dysgu, er mwyn iddynt allu darganfod a datblygu eu doniau a’u diddordebau unigol eu hunain a meithrin hyder, hunanfynegiant a meddylfryd twf. Rydym ni fel Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn anelu at feithrin doniau pob plentyn, fel eu bod wedi paratoi’n dda iawn ar gyfer cam nesaf eu haddysg. Mae cymryd rhan yn y Celfyddydau yn helpu i feithrin agwedd gadarnhaol ymhlith myfyrwyr drwy ddatblygu ys tod eang o rinweddau megis cydweithredu, brwdfrydedd, angerdd, ysbrydoliaeth ac uchelgais. Bydd hefyd yn helpu myfyrwyr i deimlo ymdeimlad pwysig o berthyn. Mewn partneriaeth â’n clwstwr o ysgolion cynradd a grwpiau cymunedol lleol, ein nod yw creu diwylliant o ddysgu drwy’r Celfyddydau sy’n hygyrch i bob myfyriwr ac i’r gymuned ehangach. Ein nod yw sicrhau bod y Celfyddydau Mynegiannol yn cael eu hannog a’u dathlu yn yr ysgol a dod o hyd i bwnc Celfyddydol i bob myfyriwr ennill dysgu creadigol, annibynnol sy’n seiliedig ar sgiliau yn ogystal â’r ochr academaidd sydd ar gael i’r Celfyddydau Mynegiannol.
Yr Hyn Sy’n Bwysig:
- Mae archwilio’r Celfyddydau Mynegiannol a thrwyddynt yn dyfnhau ein gwybodaeth artistig ac yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o hunaniaethau, diwylliannau a chymeithasau.
- Mae ymateb a myfyrio, fel artist a chynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu am y Celfyddydau Mynegiannol a thrwyddynt.
- Mae gwaith creadigol yn cyfuno gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio’r synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.
Gweledigaeth:
Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn chwarae rôl hanfodol yn ein bywydau pob dydd. Ein gweledigaeth ar gyfer y maes hwn yw bod dysgwyr yn datblygu sgiliau hanfodol wrth iddynt ymholi a gwerthuso tystiolaeth mewn ffordd gadarn a chyson ac yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus mewn pob agwedd o’u bywydau. Mae’r byd Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn un sy’n newid yn gyflym, ac felly bydd dysgwyr yn derbyn nifer o gyfleoedd i feddwl yn greadigol, i gymryd risg ac i arloesi a gwerthuso er mwyn eu paratoi ar gyfer y dyfodol. Mae nifer o ddatblygiadau Gwyddonol a Thechnolegol pwysig hefyd wedi deillio yng Nghymru a’r ardal leol ac fe fyddwn yn dathlu’r cyraeddiadau yma yn ein gwaith.
Yr Hyn Sy’n Bwysig:
- Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.
- Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dyniadau cymdeithas.
- Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.
- Mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau.
- Mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd.
Mae cyfrifiaduraeth yn gosod sail i’n byd digidol.




