respecting-rights

Parchu Hawliau

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Ysgol Gyfun Gŵyr wedi bod yn hybu hawliau plant yn weithgar yn yr ysgol. Rydym wedi ennill Gwobr Arian Unicef fel Ysgol sy’n Parchu Hawliau, sy’n cydnabod ein bod, fel ysgol, yn cydnabod pwysigrwydd:

  • addysgu a dysgu am hawliau
  • addysgu a dysgu trwy hawliau ac 
  • annog cymuned yr ysgol i fod yn llysgenhadon dros hawliau pob eraill.

Nod y wobr hon yw hybu dealltwriaeth disgyblion o’r holl hawliau sydd gan blant dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Rydym yn hyrwyddo’r hawliau hyn trwy fentrau ysgol gyfan ac mewn gwersi. Mae nifer o bwyllgorau ar waith er mwyn hybu hawliau pobl ifanc, er enghraifft Erthygl 14 (Yr hawl i arfer eu crefydd eu hunain), Erthygl 23 (Yr hawl i ofal ac amddiffyniad arbennig os ydych yn anabl, er mwyn byw bywyd llawn ac annibynnol) ac Erthygl 37 (Yr hawl i gael eich trin yn deg). Mae’r pwyllgorau hyn yn cynnwys pwyllgor gwrth-hiliaeth ac Islamoffobia, yn ogystal â phwyllgorau sy’n ymgyrchu dros hawliau merched, plant a’r cymunedau LGBT+.

Ysgol Gyfun Gŵyr Logo