Siwrnai Ysgol Gyfun Gŵyr i fod yn Ysgol Noddfa
Mae gan Gymru, ac Abertawe yn benodol, hanes hir o groesawu ffoaduriaid o bob rhan o’r byd. Mae’r bobl yma wedi cyfrannu at ein cymunedau ac wedi ehangu ein gorwelion.
Amrywiaeth o bobl proffesiynol a gwirfoddolwyr yw’r cynllun Abertawe fel Dinas Noddfa sydd yn gweithio ar y cyd er mwyn gwneud ein dinas a’n hysgol yn fan croesawgar a chynnes ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Yn 2010, daeth Abertawe y ddinas gyntaf yng Nghymru i ennill statws fel Dinas Noddfa. Ers hynny, maent wedi bod yn cydweithio gydag ysgolion, prifysgolion, a sefydliadau eraill yn y ddinas er mwyn addysgu a rhannu beth mae’n golygu i fod yn ‘ddinas noddfa’ ac i wreiddio’r egwyddorion o groeso sy’n greiddiol i’w gweledigaeth.
Yn 2021, dechreuodd Ysgol Gyfun Gwyr ar ei siwrnai i fod yn Ysgol Noddfa. O dan arweinyddiaeth yr Adran Ddyniaethau, braf oedd gweld yr adran honno’n derbyn gwobr “Adran Noddfa” ym Mehefin 2022. Ers hynny, rydym wedi bod yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd gan hyrwyddo diwylliant o gynhwysiant, goddefgarwch a chyfeillgarwch at bawb. Fel Ysgol Noddfa, rydym yn ymrwymedig i fod yn ganolfan sy’n ddiogel a chroesawgar i bawb, yn enwedig i’r rheiny sy’n ceisio lloches.
Ein nod yw annog ein dysgwyr, staff a’r gymuned ehangach i ddeall beth a olygir wrth ‘ysgol noddfa’ ac yn i gynnig llaw cyfeillgarwch er mwyn croesawu pawb fel aelodau cyfartal a gwerthfawr i gymuned ein hysgol. Rydym yn ysgol sy’n ymfalchio yn y ffaith ein bod yn ganolfan diogel a chynhwysol i bawb.
Fel Ysgol Noddfa, rydym yn ymrwymedig i
Greu diwylliant i groeso i bawb, yn enwedig i ffoaduriaid, ceiswyr lloches ac eraill sy’n ceisio noddfa.
Hyrwyddo llais a chyfraniadau’r rheiny sydd naill ai wedi ceisio noddfa neu wedi derbyn noddfa, yne ein cymdeithas.
Gynyddu dealltwriaeth cymuned yr ysgol o brofiadau mudwyr a cheisio herio’r stereoteipiau sy’n gysylltiedig i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.