Dewisiadau TGAU Blwyddyn 9
Bydd ei gwrs/chwrs addysg yn cynnwys:
i. Pynciau Craidd
Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Rhifedd, Gwyddoniaeth Ddwbl, ac Astudiaethau Cyffredinol (Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Gyrfaoedd, Addysg Grefyddol, Ymarfer Corff/Chwaraeon).
Bydd y disgyblion hefyd yn cyflawni gofynion Diploma Cenedlaethol y Fagloriaeth Gymreig ym Mlwyddyn 10 ac 11.
ii. Pynciau Dewisol
Bydd angen nodi tri phwnc dewisol yn y lle cyntaf. Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymgais i ymateb i ddewisiadau pob disgybl ond weithiau ni fydd hynny’n bosibl.
Bryd hynny byddwn yn trafod gyda’ch plentyn ac yn cynnig cyngor penodol. Byddwn bob amser yn cysylltu â chi fel rhieni i gadarnhau y dewis terfynol.
Cliciwch ar y ddogfen i’r dde i weld y Llyfryn Dewisiadau TGAU diweddaraf…





