
E-Diogelwch
Dyma ddolen i wybodaeth gan arbenigwyr er mwyn cynorthwyo plant a phobl ifanc i aros yn ddiogel arlein.
- Cadw’n ddiogel ar-lein – Hwb (gov.wales) (Tudalen Gymraeg)
- Home | Parent Zone (Saesneg yn unig)
Ein nod yw cynnig cwricwlwm eang, cytbwys a phersonol i bob disgybl yn yr ysgol trwy:
- fodloni holl ofynion statudol y Cwricwlwm Cenedlaethol
- datblygu dewis o sgiliau ar sail y Fframweithiau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol
- meithrin agweddau cadarnhaol ym mhob unigolyn fel y gall addasu mewn ffordd hyblyg i syniadau a sefyllfaoedd newydd
- hybu ymhlith unigolion y gallu i weithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm er mwyn datrys problemau a phenderfynu sut i gyflawni tasgau yn briodol
- helpu pob unigolyn i ddatblygu safonau personol sy’n dangos sensitifrwydd at anghenion pobl eraill ac i ddod yn oedolion gofalgar a chyfrifol
- ysgogi pob unigolyn i gyflawni hyd eithaf ei (g)allu, trwy gynnwys disgyblion yn actif wrth hunanwerthuso a chynllunio camau gweithredu, er mwyn gwneud cynnydd pellach gyda’r gwaith o hybu cyfleoedd cyfartal a’r egwyddor o barchu pob unigolyn sy’n aelod o gymuned yr ysgol a’r gymuned estynedig
- hybu Cymreictod a’r Cwricwlwm Cymreig a meithrin ymwybyddiaeth y disgybl o dreftadaeth a diwylliant y genedl, ynghyd â dealltwriaeth o ddiwylliannau eraill a pharch tuag atynt
- hybu ymwybyddiaeth fyd-eang o faterion amgylcheddol a chynaladwyedd
- hybu ymwybyddiaeth o fyw a bwyta’n iach
- datblygu dealltwriaeth o ofynion byd gwaith a chynnig cyfle i ddilyn cyrsiau galwedigaethol
- sicrhau dilyniant a pharhad rhwng cyfnodau allweddol
- sicrhau dewis eang o brofiadau dysgu anffurfiol.





