parents

Rhieni

Cysylltiadau rhwng y cartref a’r ysgol

Mae’r cydweithrediad rhwng y cartref a’r ysgol wedi bod yn agwedd bwysig iawn ar fywyd yr ysgol hon o’r cychwyn cyntaf ac mae’n hanfodol i ddilynant a datblygiad llwyddiannus yr holl ddisgyblion. 

Estynnir gwahoddiad i rieni disgyblion newydd sy’n dechrau yn yr ysgol ym mis Medi i ymweld â’r ysgol, yn ystod y mis Gorffennaf blaenorol. Ddiwedd yr hanner tymor cyntaf ym mis Hydref, estynnir gwahoddiad i rieni Blwyddyn 7 i ddod i noson Ymsefydlu yn yr ysgol i drafod sut y mae’r disgyblion newydd wedi ymgartrefu yn yr ysgol ac i gael rhagor o wybodaeth.

Cynhelir noson rieni flynyddol ar gyfer pob blwyddyn ysgol, ac mae rhieni yn cael gwybod yn ddyddiol trwy neges destun os na fydd eu plentyn wedi cwblhau gwaith cartref. Mae gennym bolisi drws agored ac rydym yn annog rhieni i gysylltu â ni ar unrhyw adeg os oes pryderon ganddynt am gynnydd academaidd a lles eu plentyn. 

Mae ymddwyn yn dda yn hanfodol i gynnydd academaidd pob plentyn. Parch at eraill, ynghyd â hunan-barch, yw conglfeini polisi ymddygiad yr ysgol. Nid yw diffyg parch ar ffurf ymddygiad gwael yn dderbyniol felly.  Byddwn yn cysylltu â rhieni neu warcheidwaid plant sy’n camymddwyn dro ar ôl tro, a byddwn yn ymdrin â’r disgyblion hynny yn unol â chod ymddygiad yr ysgol. Gallai camymddwyn difrifol arwain at waharddiad mewnol a gwaharddiad rhag cynrychioli’r ysgol ar y maes chwarae. 

Presenoldeb

Yma yn Ysgol Gyfun Gŵyr, credwn fod cysylltiad agos rhwng presenoldeb rhagorol a chanlyniadau rhagorol, a hynny o ran canlyniadau arholiadau a’r profiad o fywyd ehangach yr ysgol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a’r Awdurdod Lleol i sicrhau presenoldeb rheolaidd ac ni ddylai teuluoedd drefnu gwyliau yn ystod y tymor ysgol er mwyn hybu pwysigrwydd addysg.

Dylai pob disgybl anelu at bresenoldeb o 96%, o leiaf, ar draws y flwyddyn. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod canran y disgyblion â phresenoldeb o 100% yn Ysgol Gyfun Gŵyr yn uchel ac mae pob un yn ennill gwobrau am eu presenoldeb ar ddiwedd y flwyddyn ysgol.

Diogelu Plant

Mae diogelu plentyn rhag niwed o unrhyw fath o’r pwys mwyaf yn Ysgol Gyfun Gŵyr. Mae pob aelod o staff, gan gynnwys staff cymorth, yn ymwybodol o weithdrefnau amddiffyn plant ac yn cael hyfforddiant rheolaidd. Mae gennym ddau aelod dynodedig o staff sy’n gyfrifol am amddiffyn plant, sef Rhodri Evans, Uwch-athro, sy’n Swyddog Amddiffyn Plant Dynodedig, a Sara Thomas sy’n ddirprwy iddo. Dylai unigolion gysylltu â nhw ar unwaith drwy ffonio’r ysgol ar 01792 872403 os oes ganddynt unrhyw bryderon difrifol ynghylch lles plentyn.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn ysgol gynhwysol ac ynddi gwerthfawrogir pob plentyn a chaiff yr hawl i gyflawni hyd eithaf ei (g)allu. Bydd angen cymorth ychwanegol ar rai plant er mwyn cyflawni. Mae Emma Morris, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn arwain tîm o arbenigwyr mewnol ac allanol yn y maes hwn. Os oes gan rieni neu warcheidwaid bryderon penodol, yna dylent gysylltu â’r ysgol a gofyn am gael siarad â Mrs Morris. Yn ogystal, sefydlodd yr ysgol yr “Hafan”, sef canolfan cymorth lle y gall y disgyblion hynny sydd efallai angen “amser allan” o’r gwersi yn ystod y dydd, fynd er eu lles eu hunain. Mae yna ddau swyddog bugeiliol llawn amser yn yr Hafan a gallant gefnogi’r plentyn yn ystod y cyfnod hwn. Yn amlwg, os oes pryderon difrifol yn datblygu wedi trafod y sefyllfa gyda’r aelod priodol o’r uwch-dîm rheoli, cysylltir â’r rhieni neu’r gwarcheidwaid.

Gweithgareddau Allgyrsiol

Mae gan Ysgol Gyfun Gŵyr enw da am yr holl weithgareddau awr ginio a gweithgareddau ar ôl ysgol y mae’n eu cynnig. Credwn y dylid datblygu plentyn sy’n unigolyn cyflawn ac yn ddinesydd iach yn ogystal â’i (d)datblygu yn academaidd fel dysgwr rhagorol. Yn sgil hyn, cynigir dewis o weithgareddau chwaraeon, cerddorol a diwylliannol ac rydym yn annog pob disgybl i gymryd rhan ynddynt. Dylai rhieni neu warcheidwaid gysylltu â Phennaeth Blwyddyn y plentyn am wybodaeth lawn am y dewis o weithgareddau allgyrsiol.

Yng ngeiriau ein disgyblion

  • Mae yna lawer o glybiau awr ginio a chlybiau ar ôl ysgol. Mae Gŵyr eisiau i chi fod yn hapus a dysgu ar yr un pryd.
  • Mae Gŵyr fel un teulu mawr.
  • Roedd Gŵyr wedi rhoi cannoedd o gyfleoedd i fi ym maes chwaraeon – rydw i wedi bod yn y tîm pêl-rwyd, y tîm pêl-droed, gymnasteg, athletau, traws-gwlad a llawer mwy.
  • Mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn arbennig oherwydd mae’n rhoi llawer o brofiadau i ni. Gallwch gymryd rhan mewn unrhyw gamp ac mae Gwyddoniaeth yn cŵl! Gallwch hefyd ymuno â’r côr a’r Clwb Drama.
  • Mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn wych – mae yna ddigon o weithgareddau i’ch diddanu drwy’r amser.
  • Yn Ysgol Gyfun Gŵyr mae’n hwyl oherwydd rydych yn cwrdd â llawer o ffrindiau. Mae’r gwersi D Tech yn dda oherwydd rydych chi’n cael defnyddio peiriannau. Mae’r gwersi Gwyddoniaeth yn dda oherwydd rydych chi’n cael defnyddio’r Llosgwr Bunsen ac yn cael gwneud arbrofion.
  • Mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn ysgol hyfryd i fod ynddi. Mae yna ddigon o le i chwarae ac rydych yn dysgu llawer o bethau ac mae yna glybiau ar ôl ysgol. Rydych chi’n gwneud ffrindiau yn gyflym iawn. 
  • Mae Gŵyr yn ysgol dda iawn – mae yna glybiau difyr a llawer mwy. Mae’r pynciau’n ddiddorol ac mae yna weithgareddau yn ystod yr awr ginio hefyd, fel y Clwb TG, pêl-rwyd, côr, clwb gwaith cartref, rygbi. Mae’r bwyd yn flasus!
  • Mae’r athrawon i gyd yn hyfryd. Mae yna lond lle o brofiadau ac rydych yn gwneud llawer o ffrindiau newydd o ysgolion eraill. Hefyd, os oes problem gennych gallwch siarad â’ch Pennaeth Blwyddyn.
  • Rwy’n hoffi Gŵyr oherwydd mae yna lawer o wersi newydd a llawer o glybiau, ac mae disgyblion y Chweched Dosbarth yno i’ch helpu os oes rhywbeth o’i le. Mae’r athrawon mor hyfryd hefyd.
  • Mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn wych!
  • Roeddwn i wrth fy modd â’r Cwrs Pontio yn Llangrannog ym Mlwyddyn 6. 
Ysgol Gyfun Gŵyr Logo