Ein Darpariaeth Ni

Yn Ysgol Gyfun Gŵyr, diogelwn amrywiaeth o strategaethau ac ymyrraethau ar lefel darpariaeth gynhwysol, ac ymyrraethau neu addasiadau cynnar i hwyluso’r dysgu neu i gynorthwyo’r disgybl gyda’r hyn maen nhw’n gweld yn anodd os nad yw’r anawsterau yn sylweddol is ac yn galw am gynllun datblygu unigol (CDU).

Mae gyda ni ddwy ystafell gefnogi sef yr Encil a’r Trobwynt sy’n ystafelloedd i gefnogi dysgwyr ag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol, iechyd meddwl neu emosiynol. Mae’r Encil yn ystafell dawel sydd hefyd ag ystafell synhwyraidd i ddisgyblion hunan-reoleiddio. O bosib, na fydd ambell i ddysgwr yn dilyn holl bynciau’r cwricwlwm oherwydd ei anghenion ac felly mae’r Encil yn leoliad i allu dal i fyny  gyda gwaith eraill gyda chymorth. Fel rheol, yr un aelodau o staff sydd yn yr encil ar hyd yr wythnos i ddiogelu cysondeb i’r dysgwyr a hynny yn ystod cofrestru, egwyl a chinio hefyd.

Defnyddiwn ganlyniadau’r profion Cenedlaethol i adnabod dysgwyr y gallai elwa o gefnogaeth Llythrennedd a’r dysgwyr hynny yn derbyn gwersi ychwanegol yn Y Gilfach. Digwydda’r gwersi unwaith yr wythnos ac fel rheol, bydd y dysgwyr yn dod allan o un o’r gwersi allgraidd. Ni fydd y cymorth yn dechrau’n syth, fel arfer, ar ol hanner tymor Hydref fel bod cyfle i’r dysgwyr ymgartrefu ac ymgyfarwyddo gyda bywyd yng Ngŵyr.

Mae gyda ni dîm o arbenigwyr sy’n gallu gweithio gyda disgyblion sy’n amrywio o’r Seicolegydd Addysg, ymyrraeth iaith a lleferydd, cymorth a chefnogaeth emosiynol a chefnogaeth arbenigwraig ymddygiadol. Mae rhai o’r ymyrraethau yma gallwn gynnig yn fewnol ac eraill trwy weithio gyda’r awdurdod lleol.

Enghreifftiau o’n Darpariaeth

Mae’n gyfrifoldeb ar bob athro ac aelod o staff yr ysgol i sicrhau bod pob dysgwr yn cael cymaint o fynediad â phosibl at y dysgu a’r amgylchedd addysgol. Bydd gan staff fynediad at broffiliau un dudalen sy’n nodi anawsterau unigol disgyblion, ynghyd â’r strategaethau priodol i’w cefnogi os bydd ganddynt unrhyw anawsterau dysgu.

Bydd y wybodaeth hon yn galluogi athrawon i gynllunio gwersi ac asesiadau yn effeithiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle cyfartal i lwyddo.

Darpariaeth Gynhwysol yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio’r holl gymorth sydd ar gael i bob disgybl, boed ganddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ai peidio. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o strategaethau, adnoddau a dulliau addysgu sy’n hyrwyddo cynhwysiant ac yn sicrhau bod yr ysgol yn darparu amgylchedd dysgu teg ac addas i bawb.

Dyma enghreifftiau o’r ddarpariaeth gynhwysol sydd yn cael eu cynnig yn Ysgol Gyfun Gŵyr.

Gwybyddiaeth a Dysgu

 

  • Cwricwlwm gwahaniaethol
  • Adnoddau gwahaniaethol e.e. cymhorthion gweledol 
  • Gweithgareddau gwahaniaethol
  • Adnoddau gweledol wedi’u haddasu, modelu, sgaffaldio
  • Defnydd o fframiau ysgrifennu
  • Geiriau allweddol
  • Amrywio dulliau dysgu
  • Mynediad i brosesydd geiriau
  • Geirfa allweddol a rennir ar ddechrau testun
  • Rhybudd a pharatoi ar gyfer newid
  • Arddangosfeydd geirfa
  • Tasgau grŵp neu bâr
  • Promptio
  • Amser i feddwl a phrosesu
  • Adalw gwybodaeth
  • Cymorth Dyslecsia e.e. Nessy
  • Cymorth Sillafu
  • Profion cyson yn monitro darllen, sillafu a rhifedd
  • Trefniadau ar gyfer arholiadau a chymorth

Cyfathrebu a Rhyngweithio

 

  • Addysgu gwahaniaethol e.e. iaith haws, arafach
  • Amser ychwanegol i brosesu gwybodaeth
  • Amrywiaeth o ddulliau dysgu
  • Cyfarwyddiadau syml a chlir
  • Cymhorthion gweledol
  • Ymyrraeth Language Link
  • Osgoi gosod y dysgwr ar y sbot, cynnig rhybudd neu amser prosesu
  • Defnyddio geirfa adnabyddus
  • Aelod o staff allweddol i adeiladu perthynas ac ymddiriedaeth
  • Cardiau cyfathrebu

Datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol

 

  • Polisi ymddygiad clir i bawb
  • Trefn a strwythur i’r dosbarth
  • Cynllun eistedd o fewn dosbarth
  • Rhybudd a pharatoi ar gyfer newid
  • Cyfathrebu’n glir gyda rhieni a gofalwyr
  • Mynediad i’r Encil neu’r Trobwynt
  • Cerdyn tracio ymddygiad unigol neu ddosbarth
  • Cwnsela PLATFORM
  • Mynediad at gefnogaeth CAMHS Schools in-reach
  • Mynediad at y swyddog lles ac ymddygiadol
  • Côd Ymddygiad
  • Rheolau dosbarth gweledol
  • Ymyrraeth EBSA
  • Ymyrraeth ELSA
  • Ymyrraeth Therapi Lego
  • Cyswllt gyda thiwtor dosbarth

Corfforol a synhwyraidd

 

  • Trefniadau dysgu hyblyg e.e newid dosbarth, sedd benodol, mynediad rhwydd i wersi o amgylch yr ysgol
  • Ymwybyddiaeth o rwystrau penodol e.e. sicrhau gall disgybl â nam clyw weld gwefusau’r athro neu athrawes, rhwystrau golau/bwrdd gwyn rhyngweithiol ar gyfer disgyblion ag anghenion golwg
  • Caniatad i fynd i’r tŷ bach
  • Mynediad i adnoddau e.e. teganau synhwyraidd
  • Cylchred synhwyraidd
  • Ymarferion ysgrifenedig
  • Mynediad i’r ystafell synhwyraidd
  • Mynediad i’r swyddog cymorth cyntaf am gymorth gyda meddyginiaeth

Proffil Un Dudalen:

 

Nid yw’r Proffil Un Dudalen yn ddogfen statudol, ond mae’n arf ymarferol a gwerthfawr i gefnogi dysgwyr sy’n gweld elfennau o ddysgu yn heriol. Nid oes rhaid i ddysgwr fod yn ddysgwr ADY a chanddynt CDU er mwyn gallu cael proffil un dudalen.

Pwrpas y Proffil Un Dudalen yw:

  • Darparu crynodeb clir o wybodaeth allweddol am y dysgwr.
  • Canolbwyntio ar gryfderau, anawsterau a strategaethau cefnogi sy’n gweithio orau.
  • Sicrhau bod athrawon a staff cymorth yn gallu addasu addysgu a chynllunio gwersi yn effeithiol.
  • Hyrwyddo cydweithio rhwng yr ysgol, y dysgwr, a’r teulu drwy gynnwys barn y dysgwr.

Mae’r proffil yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw ddysgwr sydd angen addasiadau i gael mynediad llawn at y cwricwlwm, gan helpu i sicrhau cynhwysiant ac addysg o ansawdd i bawb.

Pontio

Fel rhan o’r broses bontio, diogelwn gysylltiadau cryf gyda’r ysgolion cynradd i ddiogelu bod yr holl wybodaeth ADY yn cael ei throsglwyddo. Yn ddibynnol ar natur yr anghenion, mae’n bosib bydd cyfarfod mynediad hefyd yn cael ei drefnu yn nhymor yr Haf gyda’r rhieni.

Yn ogystal, os oes gan eich plentyn gynllun datblygu unigol, gwna’r CADY ei gorau i fynychu adolygiadau blwyddyn 5 a 6 er mwyn gallu paratoi’r ddarpariaeth sydd angen o flaen llaw.

Trosgwlyddo Gwybodaeth

 

  • Tymor y Gwanwyn
  • Cwrdd gyda’r athro dosbarth a’r C-ADY

Cyfarfod Mynediad

 

  • Tymor yr Haf
  • Dibynnu ar natur yr anghenion

Adolygiad Disgybl Ganolog

 

  • Ar hyd y flwyddyn
  • Os oes gan y dysgwr CDU
Ysgol Gyfun Gŵyr Logo