Gwefannau Cymorth
Gwybodaeth ADY yr Awdurdod Lleol
Niwrowahaniaeth Cymru
Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe
Pecyn cymorth i rieni a gofalwyr
SNAP Cymru
Cyfeirio am gefnogaeth wrth y Tim Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu
Mae’r ffordd rydym yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer Therapi Iaith a Lleferydd ar gyfer plant oedran ysgol newid (mae hyn yn cynnwys plant yn meithrin rhan-amser ysgol).
O 5 Ionawr 2026 ymlaen, gall rhieni/gofalwyr/ysgolion neu unrhyw un sydd eisiau gofyn am gymorth ar gyfer plentyn oedran ysgol yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot gysylltu â ni’n uniongyrchol i drefnu sgwrs ffôn gyda therapydd lleferydd ac iaith i gefnogi eu pryderon a’u hymholiad.
Gofynnwch am gymorth a chyngor ar gyfer eich plentyn, neu blentyn rydych chi’n ei gefnogi, drwy’r ddolen hon:
https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx…
Unwaith y byddwn yn cael y wybodaeth hon, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu sgwrs ffôn.
Cysylltwch os ydych chi’n pryderu am blentyn ynghylch unrhyw un o’r canlynol::
- dealla/neu ddefnyddio geiriau a brawddegau
- pa morgliry maent yn dweud geiriau
- ydynnhw’n atal, yn ‘stuck’ ar geiriau neu’n ailadrodd yr un sain mewn geiriau?
Pwy all ofyn am apwyntiad dros y ffôn? Unrhyw un! Rydym eisiau siarad â’r person sydd yn pryderu – gallai hyn fod y rhiant/gofalwr, yr ysgol, gweithiwr proffesiynol arall fel Pediatrydd neu Awdiolegydd, neu’r person ifanc ei hun.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Yn gyntaf, cwblhewch y ffurflen ddigidol drwy’r ddolen uchod.
Byddwn yn cysylltu â chi i gynnig slot ffôn 20 munud gyda Therapydd Iaith a Lleferydd.
Yn ystod y galwad ffôn byddwn yn gofyn i chi am y canlynol:
Beth yw eich prif bryder?
Sut mae hyn yn effeithio ar y plentyn yn eu bywyd bob dydd – gartref, yn yr ysgol ac gyda’u ffrindiau?
Beth rydych chi a phobl eraill e.e. yr ysgol, gofal plant, teulu yn ei wneud i helpu?
Sut ydych chi’n meddwl y gallwn ni helpu?
Sicrhewch eich bod yn barod ar gyfer yr apwyntiad ffôn hwn drwy baratoi atebion i’r cwestiynau uchod.
Gyda’n gilydd byddwn yn penderfynu ar y camau nesaf, allai rhein cynnwys:
– Cyfeirio at dimau, gwasanaethau neu grwpiau perthnasol eraill
– Cyngor a strategaethau i’w defnyddio
– Gwefannau ac adnoddau defnyddiol
– Sesiynau gwybodaeth neu hyfforddiant
– Cefnogaeth sy’n seiliedig yn yr ysgol
– Asesiad arbenigol a/neu ymyrraeth
Os na allwch gael mynediad at y ffurflen ddigidol, cysylltwch â ni ar 01792 517863.
Os oes gennych ymholiad am blentyn sydd ar agor i’r tîm Therapi Iaith a Lleferydd, cysylltwch â ni yn sbu.childrensspeechtherapy@wales.nhs.uk yn gynnwys enw’r plentyn a’i ddyddiad geni.





