Dathlu’r Deugain
Bu’n flwyddyn fawr i Ysgol Gyfun Gŵyr yn 2024-25, wrth iddi ddathlu ei phenblwydd yn 40 oed gyda gwledd o ddigwyddiadau ar gyfer teulu estynedig yr ysgol. Cafwyd cyfleoedd i ddysgwyr a staff presennol yr ysgol i ddysgu am ei hanes, ynghyd â dathliadau oedd yn cynnwys cyn-ddisgyblion a chyn-aelodau’r staff.
Sioe yr Ysgol – ‘Nôl i’r 80au’
Gyda’r ymarferion eisoes ar waith ers tymor yr haf 2024, roedd hi’n ddechreuad prysur i’r flwyddyn wrth i’r adrannau Drama, Cerdd a Chelf gydweithio i gynhyrchu’r sioe ‘Nôl i’r 80au’ er mwyn cofnodi pwnclwydd yr ysgol yn 40 oed.
Roedd y gwaith ymarfer yn ddiwyd ac roedd yn hyfryd gweld mwynhad y dysgwyr wrth iddynt ymroi yn llwyr i gerddoriaeth a ffasiwn y cyfnod.
Fel rhan o’r paratoadau, cafwyd diwrnod ‘Nôl i’r 80au’, gyda staff a disgyblion yn gwisgo gwisg yr 80au ac yn mwynhau cerddoriaeth o’r cyfnod. Roedd ambell un hyd yn oed wedi cael hyd i’r eitemau ffasiwn gwreiddiol roeddent wedi’u gwisgo ar y pryd!
Theatr y Taliesin
Yn Theatr y Taliesin ar ddechrau mis Tachwedd, felly, dyma wisgo’r ‘legwarmers’ a’r ‘shoulder pads’ a dringo i’r peiriant amser i fwynhau noson o sbri gyda cherddoriaeth a ffasiwn y 1980au. Gyda sgript gwreiddiol gan ein dirprwy, Mr Gareth Williams, wedi ei weu yn grefftus o amglych dwy stori rhamant, roedd yn berfformiad ysgubol gan gast swmpus – a gyda chyfraniad brwdfrydig gan y gynulleidfa yn ystod y gan olaf, hefyd. Roedd yn brofiad gwefreiddiol i’r perfformwyr a’r gynulleidfa, gyda digon o ganu a dawnsio o’r seddi yn ogystal â’r llwyfan wrth i ni glywed am hynt a helynt y cymeriadau ym mwrlwm dyddiau cynnar Ysgol Gyfun Gŵyr.
Mae diolchiadau enfawr yn mynd i’r adrannau Cerdd a Drama am y perfformiad byrlymus, i’r adrannau DT a Chelf am gynhyrchu’r set, ac i’r nifer fawr o aelodau staff a rhieni oedd wedi cynorthwyo drwy ganu offeryn, trefnu gwisgoedd, cydlynu’r cast a gweithio y tu ôl i’r llenni i’w wneud yn berfformiad mor llwyddiannus. Dyma ddechreuad egnîol i ddathliadau 40 yr ysgol!
Cinio Dathlu’r Deugain
Wedi prysurdeb y perfformiadau, cafwyd cyfle i ymlacio yng nghwmni hen ffrindiau, wrth i staff o bob cyfnod dros hanes yr ysgol ymgynnull am ginio mawreddog yng Ngwesty’r King Arthur ar Benrhyn Gŵyr. Cafwyd adloniant gan grŵp gwerin ac anerchiad gan Mr Jeffrey Connick, Y Pennaeth, yn cydnabod ei ddyled i gyn-benaethiaid yr ysgol a phawb sydd wedi bod yn rhan o Deulu Gwyr dros y 40 mlynedd diwethaf.
Dyma awyrgylch hyfryd i gofnodi penblwydd arbennig yr ysgol ac i hel atgofion gyda’n cydweithwyr. Diolch i Mr Ben Roberts a’r tîm am drefnu noson lwyddiannus iawn.
Twrnament Chwaraeon
Cafwyd cyfle i ddathlu llwyddiannau’r ysgol ym myd chwaraeon ym mis Chwefror 2025 (Ionawr), wrth i’r ysgol gynnal noson o gemau pêl-rwyd a rygbi rhwng timoedd o gyn-ddisgyblion. Cynhaliwyd y weithgaredd yng Nghlwb Rygbi Tre-gŵyr, lle roedd cyfle i gymdeithasu a rhannu atgofion wedi’r ymarfer corff.
Roedd llawer o hwyl ac mae eto’n deyrnged i ddylanwad yr ysgol ar ei disgyblion bod gymaint wedi ymateb i’r alwad i gymryd rhan – ac wedi dod â’u teuluoedd gyda nhw. Diolch i Mrs Sara Thomas am drefnu digwyddiad llwyddiannus iawn.
Cyngerdd Dathlu Doniau’r Deugain
I goroni’r flwyddyn, dyma gynnal cyngerdd mawreddog yn Neuadd y Brangwyn, yn arddangos doniau diwylliannol dysgwyr hen a newydd, gan gynnwys perfformiadau gan gorau dysgwyr a staff yr ysgol, corau o gyn-ddysgwyr (oedd wedi dangos dipyn o ymroddiad wrth fynychu ymarferion ar benwythnosau yn arwain at y prfformiad terfynol), grwpiau dawnsio gwerin a pherfformiadau cerddorol gan ddysgwyr presennol a chyn-ddysgwyr.
Wedi’u plethu drwy’r noson roedd cyn-ddysgwyr yn arwain, sef Lowri Morgan, Rhodri Owen, Meleri Williams, Rhys Williams, Owain Clarke ac eraill, perfformiadau gan y soprano Elin Manahan Thomas, y delynores a cherddor gwerin Angharad Jenkins, y canwr-gyfansoddwr Geraint Rhys Whittaker, yr unawdydd Liam Edwards, y pianydd William Morris a mwy. Daeth eraill i’r llwyfan i roi adroddiadau twymgalon o’u cyfnodau yn yr ysgol.
Roedd yn noson fythgofiadwy oedd yn tystio i’r angerdd o fewn teulu’r ysgol a’r parch sydd tuag ati yn ei chymuned ehangach. Braf oedd gweld gymaint o gyfeillion yr ysgol yn rhan o’r gynulleidfa, gan roi cyfle i ddiolch i bawb oedd wedi bod yn rhan o stori’r ysgol dros y 40 mlynedd diwethaf. I gloi’r perfformiadau, cafwyd corau’r ysgol ynghyd i ganu darn newydd, gyda cherddoriaeth gan gyn-ddirprwy yr ysgol, Eric Jones, a geiriau gan y dirprwy presennol, Gareth Williams: ‘Dathlu’r Deugain’. Roedd yn noson emosiynol, wefreiddiol, gyda darllediad rhaglen S4C ‘Heno’ yn tynnu sylw haeddiannol iawn at hanes Ysgol Gyfun Gŵyr ac addysg Gymraeg yn Abertawe. Mae’n diolchiadau’n ddiffuant iawn i Miss Carwen George, Mrs Meinir Richards, Mrs Anne Morris a phawb oedd wedi paratoi disgyblion presennol a chyn-ddisgyblion tuag at adloniant y noson.





