Y Goleudy

Sefydlwyd Adnodd Addysgu Arbenigol yr ysgol ym Medi 2009, gyda’r Adnodd yn derbyn cartref ar ei newydd-wedd o fewn yr ysgol ar gyfer Medi 2025 o dan yr enw, ‘Y Goleudy’. Bydd y Goleudy yn cynnig darpariaeth i uchafswm o ddeunaw o ddisgyblion ag Anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol a/neu Anawsterau Dysgu. Nôd yr uned, yw cynnig darpariaeth arbenigol, penodol i’r disgyblion o fewn awyrgylch tawel, cartrefol, wrth hybu hyder ac annibyniaeth y disgyblion. Mae gan yr uned bolisi o integreiddio cryf, ac fe roddir bob cyfle i holl ddisgyblion y Goleudy i ymgymryd â gwersi a gweithgareddau o fewn y prif-ffrwd megis pynciau allgraidd.

Byddai gan bob dysgwr sy’n derbyn addysg drwy’r adnodd, gynllun datblygu unigol a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol. I wneud cais ar gyfer cael lleoliad yn y Goleudy, bydd angen i’r ysgolion cynradd, ar ôl adolygiad blwyddyn 5, gyfeirio i’r Awdurdod Lleol ac i’r panel ADY.

Ystafelloedd y Goleudy

Rhosili

Ystafell Ddysgu Mr Williams

Llanmadog

Ystafell Ddysgu Mr Myers

Ystafell Synhwyraidd

Ystafell Waith Llwchwr

Ystafell Waith  /  Ymyrraeth  /  Cyfarfodydd

Ysgol Gyfun Gŵyr Logo