System ADY Newydd

 

Mae’r cyfnod trosglwyddo o’r hen system Anghenion Addysgol Arbennig i’r Ddeddf newydd Anghenion Dysgu Ychwanegol 2018 a Thribiwnlys i Gymru wedi dod i ben a phawb bellach o dan y system newydd.

 

O dan y Ddeddf newydd gall ADY ddod o dan 4 maes penodol sef anawsterau:

Gwybyddiaeth a Dysgu

Cyfathrebu a Rhyngweithio

Datblygiad Emosiynol, Cymdeithasol ac Ymddygiad

Corfforol a Synhwyraidd

O dan y ddeddf newydd, mae galw am gynllun datblygu unigol os ydy anghenion y dysgwr yn sylweddol is na’i gyfoedion a bod angen darpariaeth sy’n cael ei weld yn ychwanegol a hynny hefyd yn wir os oes gan ddysgwr anabledd, o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy’n ei rwystro rhag cael mynediad i gyfleusterau mewn ysgol prif ffrwd.

Ysgol Gyfun Gŵyr Logo