
Diogelu yn Ysgol Gyfun Gŵyr
Yn Ysgol Gyfun Gŵyr, mae diogelu a lles ein disgyblion yn flaenoriaeth lwyr ac yn rhan annatod o fywyd yr ysgol. Mae ein polisïau a’n gweithdrefnau wedi’u seilio ar ganllawiau cenedlaethol megis Keeping Learners Safe 2022 a gweithdrefnau Diogelu Cymru, ac fe’u hadolygir yn flynyddol i sicrhau eu bod yn gyfredol ac effeithiol. Mae staff yn derbyn hyfforddiant rheolaidd i adnabod arwyddion o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed, ac i weithredu’n brydlon ac yn gyfrifol pan fo pryderon yn codi.
Mae ethos yr ysgol yn annog disgyblion i deimlo’n ddiogel, i fynegi pryderon, ac i wybod y byddant bob amser yn cael eu gwrando arnynt a’u cefnogi. Rydym yn cydweithio’n agos â theuluoedd a gwasanaethau cymorth er mwyn sicrhau y darperir yr help cywir i ddisgyblion a’u teuluoedd cyn gynted â phosibl.
Y Person Dynodedig ar gyfer Diogelu (DSP) yn yr ysgol yw Mr Rhodri Evans (01792 977 104 / EvansR554@hwbcymru.net) ac mae’r Dirprwy DSP yw Mrs Sara Thomas (01792 977 105 / ThomasS643@hwbcymru.net). Mae’r ddau yn aelodau allweddol o’r tîm arweinyddol ac yn adnabyddus i staff, disgyblion a rhieni fel y prif gysylltiad ar gyfer unrhyw faterion diogelu.
Trwy’r trefniadau hyn rydym yn sicrhau fod pob disgybl yn gallu dysgu a thyfu mewn amgylchedd sy’n ddiogel, cefnogol ac yn llawn ymddiriedaeth.
.





